Compartir
Frontiers of the Roman Empire: The Roman Frontiers in Wales: Ffiniau'r Ymerodraeth Rufeinig: Ffiniau Rhufeinig Cymru (en Inglés)
David J. Breeze
(Autor)
·
Peter Guest
(Autor)
·
Archaeopress Publishing
· Tapa Blanda
Frontiers of the Roman Empire: The Roman Frontiers in Wales: Ffiniau'r Ymerodraeth Rufeinig: Ffiniau Rhufeinig Cymru (en Inglés) - Breeze, David J. ; Guest, Peter
$ 26.79
$ 52.21
Ahorras: $ 25.42
Elige la lista en la que quieres agregar tu producto o crea una nueva lista
✓ Producto agregado correctamente a la lista de deseos.
Ir a Mis Listas
Origen: Reino Unido
(Costos de importación incluídos en el precio)
Se enviará desde nuestra bodega entre el
Viernes 21 de Junio y el
Lunes 01 de Julio.
Lo recibirás en cualquier lugar de Ecuador entre 1 y 3 días hábiles luego del envío.
Reseña del libro "Frontiers of the Roman Empire: The Roman Frontiers in Wales: Ffiniau'r Ymerodraeth Rufeinig: Ffiniau Rhufeinig Cymru (en Inglés)"
Gyda'i gilydd, mae ffiniau'r Ymerodraeth Rufeinig yn ffurfio heneb fwyaf un o wladwriaethau mawr y byd. Maen nhw'n ymestyn am tua 7,500 cilometr drwy 20 gwlad sy'n amgylchynu Mor y Canoldir. Mae olion y ffiniau hyn wedi'u hastudio gan ymwelwyr, ac yn ddiweddarach gan archaeolegwyr, ers canrifoedd lawer. Mae llawer o'r arysgrifau a'r cerfluniau, arfau, crochenwaith ac arteffactau a grewyd ac a ddefnyddiwyd gan filwyr a phobl gyffredin a oedd yn byw ar y ffiniau, i'w gweld mewn amgueddfeydd. Atgof yr un mor gryf o rym colledig Rhufain yw olion ffisegol y ffiniau eu hunain. Nod y gyfres hon o lyfrau yw goleuo'r ymwelydd sydd a diddordeb am hanes y ffiniau ynghyd a bod yn ganllaw iddynt. Mae olion ffiniau Rhufeinig Cymru yn unigryw yn yr Ymerodraeth Rufeinig. Yn wahanol i'r ffiniau llinellol amddiffynnol adnabyddus fel Mur Hadrian a Mur Antoninus yng ngogledd Prydain, bwriad caerau ac amddiffynfeydd gorllewin Prydain oedd creu ffin ymosodol ddeinamig i fynd i'r afael a brodorion ffyrnig. Nodwyd dros 60 o amddiffynfeydd a chaerau bach a mawr, o garreg a phren, rhai wedi cael eu defnyddio am rai blynyddoedd yn unig, ac eraill am gyfnod llawer hirach. Maen nhw'n adrodd hanes y rhyfel hir a milain yn erbyn y llwythau Celtaidd a pholisi'r fyddin, wedi'r fuddugoliaeth derfynol a chyflawn, o feddiannu trylwyr, pan leolwyd hyd at 25,000 o lengfilwyr a milwyr ategol yng Nghymru. Gobeithio y bydd darllenwyr y llyfr hwn yn mwynhau darganfod hanes diddorol y Rhufeiniad yn goresgyn Cymru bron i 2,000 o flynyddoedd yn ol.